Fy enw i ydi Deian ap Rhisiart a dwi’n dywysydd bathodyn glas ac yn byw yng Nghaernarfon. Mi wnes raddio mewn hanes Cymru a gradd Meistr mewn hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth a dwi wrth fy modd yn dangos Cymru i dramorwyr. Rwy’n angerddol am ein hanes ac yn awyddus i bobl o bob oed i ddysgu am ein treftadaeth. Gallaf arwain teithiau addysgiadol ar gyfer unigolion, grwpiau ac ysgolion.
Cysylltwch am ragor o wybodaeth.