Ymunwch gyda mi ar antur fach ar hyd lein y Cambrian coast, yn gadael tref brysur Porthmadog yng nghysgod Eryri gan orffen y daith yn y Bermo wrth gegyr afon Mawddach.
Yn ystod y daith, byddwn yn gweld arfordir anhygoel ac yn ymweld a chastell Harlech a adeiladwyd gan Frenin Edward I ac fe gartrefwyd fel llys i Owain Glyn Dwr; fe welwch hefyd Draeth Harlech, un o’r traethau prydferthaf yn y byd gyda’r Wyddfa yn gefndir.
Dysgwch am hanes gwaedlyd Castell Harlech a chysylltiad yr ardal gyda Bendigeidfran. Y mae bae Ceredigion hefyd yn enwog am ei bywyd gwyllt ac mae’n bosib y gwelwn ddolffiniaid yn nofio.
Fe fydd y daith yn gorffen yn y Bermo neu Abermawddach, a chael cip ar hanes amgen y dref lan mor.
Fe fydd y daith yn dechrau am 10pm ym Mhorthmadog ac yn dychwelyd i Borthmadog erbyn 6pm. Fe fydd taith o Gastell Harlech yn gynwysiedig gyda gostyngiad ar bris mynediad. Fe fydd y cludiant o orsaf Harlech yn gynwysiedig.