Dau Gastell: Dau Begwn


Dolbadarn CastleMae Cymru yn enwog am ei chestyll a pha ffordd well o ddarganfod dau gastell diddorol ond trwy gael taith dywys o’u hamgylch. Fe fyddaf yn eich tywys o amgylch tref gaerog Caernarfon gan gyffwrdd ar gyfraniad dadleuol y castell yn hanes Cymru fodern, gyda ymweliad byr i’r gaer a adeiladwyd gan Edward I.
Fe fyddwn wedyn yn teithio i Lanberis ac yn ymweld a Chastell Dolbadarn a adeiladwyd gan Dywysog Llywelyn Fawr, fel rhan o’i amddiffynfeydd yn erbyn brenhinoedd Eingl-Normanaidd. 2015-07-19 21.02.38 Mae Castell Dolbadarn yn fychan o’i gymharu a Chastell  mawreddog Edward ond mae ganddo apel inni’r Cymry, tra fod y castell yng Nghaernarfon yn cael ei adnabod fel castell y goruchafwyr. Bydd cyfle i drafod ymhellach ar y daith.

 

*Noder nad yw tal mynediad i Gastell Caernarfon yn rhan o’r pris. Mae tacsi i uchafswm o 15 yn yn gynwysiedig o Gaernarfon i Lanberis.