Teithiau Pwrpasol


Dwi’n cynnig sylwebaeth ar fysus moethus ar hyd a lled gogledd-orllewin Cymru megis Ynys Mon ac Eryri.  Gallaf gynnig teithiau wedi eu teilwra i’ch anghenion chi ond hefyd teithiau trefol yng Nghaernarfon, Bermo a Chonwy. Os ydych yn dymuno cael eich tywys o amgylch cestyll Eryri yn cynnwys Dolbadarn neu Dolwyddelan neu gestyll Edward I megis Caernarfon, Harlech, Cricieth, Conwy a Biwmares, fe allaf gynnig teithiau sydd at eich dant. Cysylltwch am ragor o wybodaeth.

2014-07-15 19.15.19