Teithiau Cerdded Trefol


2015-07-19 12.45.26

Os ydych yn dymuno taith hamddenol trwy rai o drefi hynafol Cymru, gadewch imi eich tywys i ddarganfod hanes cudd ein trefi hanesyddol.  Beth am daith hanes ddiddorol yn nhref gaerog Caernarfon gan ddod i adnabod yr hanes cudd y dref forwrol.

2016-07-10 11.57.37Y mae tref Conwy sydd yn edrych dros aber yr afon Conwy yn un o drysorau Cymru, ac mi roedd yn dref bwysig yn y canol oesoedd i dywysogion Gwynedd a Brenin Lloegr Edward I. Fe fyddaf yn adrodd yr hanes cythryblus tra byddech mwynhau’r golygfeydd.

Ym Meirionydd, y mae tref y Bermo yn enwog fel tref lan mor, ond ychydig sy’n gwybod am ei hetifeddiaeth forwrol ac fe gewch daith addysgiadol o amgylch y dref ar geg yr afon Mawddach.