Telerau ac Amodau


Blaendal

Fe ofynnir am daliad o £50 pan fydd archebiad yn cael ei gadarnhau. Ni fyddai posib cael ad-daliad petai’r daith yn cael ei chanslo o fewn pedair wythnos i ddyddiad y daith.

Canslo 

Mae hanner y ffi yn daladwy os ydych yn dewis canslo  rhwng pedwar wythnos a phythefnos cyn dechrau’r daith. Fe fydd 75% o’r ffi yn daladwy os ydych yn canslo lai na phythefnos cyn dechrau’r daith. Mae’r ffi llawn yn daladwy os ydych yn canslo o fewn tridiau i ddechrau’r daith.

Anfonebu

Fe fydd anfoneb yn cael ei roi ar ddiwrnod cyntaf y daith. Mae ffioedd fel arfer yn daladwy ar ddiwrnod olaf y daith os nad yw taliad wedi’i benderfynu o flaenllaw.

Mae angen sicrhau fod y meicroffon yn gweithio ar gyfer teithiau mewn bws.

Fe fydd pobl sy’n cymryd rhan mewn teithiau cerdded yn gorfod cael esgidiau addas a dillad dal dwr cyn dechrau’r daith, ac yn ddigon abl i gerdded.